Document Actions
Uned Herio Cydraddoldeb: Grŵp Cyswllt Cymru
Termau cyfeirio – Fersiwn 2: 21.1.08
- Mae Grŵp Cyswllt Cymru wedi ei ffurfio’n bennaf o swyddogion cydraddoldeb ag amrywiaeth o Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, ag eraill sy’n gweithio yn y sector addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys, ble’n briodol, cynrychiolwyr o undebau llafur a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Pwrpas y grŵp yw:
- Cryfhau gwybodaeth a gallu’r rhai hynny sy’n gweithio ym maes cydraddoldeb ag amrywiaeth mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, drwy drafod a rhannu esiamplau o arfer cynhwysol; a chyflwyniadau gan siaradwyr allanol;
- Rhannu gwybodaeth, barnau ag adnoddau ar faterion sy’n ymwneud yn benodol â chydraddoldeb ag amrywiaeth mewn addysg uwch yng Nghymru;
- Gweithredu fel llais ar gyfer ymarferwyr cydraddoldeb ag amrywiaeth mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru;
- Datblygu prosiectau, drwy gymorth gan yr Uned Herio Cydraddoldeb, sydd â pherthnasedd arbennig i gydraddoldeb ag amrywiaeth mewn addysg uwch yng Nghymru;
- Casglu gwybodaeth am waith yr Uned Herio Cydraddoldeb, er mwyn sicrhau fod ystyriaethau Cymru’n cael eu plannu’n gywir yn ei gwaith;
- Casglu gwybodaeth am waith CCAUC a Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â chydraddoldeb ag amrywiaeth mewn addysg uwch yng Nghymru.
- Fe fydd Grŵp Cyswllt Cymru’n cyfarfod tair i bedair gwaith y flwyddyn, mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru.
- Caiff ymarferwyr Cydraddoldeb ag Amrywiaeth o bob sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru eu hannog i fynychu’r cyfarfodydd, ag eraill hefyd, os ydynt yn hyrwyddo cydraddoldeb ag amrywiaeth o fewn y sefydliad fel rhan o’u gwaith. Yn gyffredinol, ni fydd mwy na dau berson o bob sefydliad yn mynychu, ond efallai y bydd adegau pan fydd y pwnc trafodaeth yn y cyfarfod yn denu mwy o bobl. Os na fydd cynrychiolydd arbennig yn gallu mynychu, yna mae croeso iddo ef/hi i enwebu cydweithiwr i fynychu yn ei le/ei lle.
- Yr Uned Herio Cydraddoldeb fydd yn darparu gweinyddiaeth a chymorth gweithredol ar gyfer y cyfarfodydd yma.